Churches across Wales will be re-adjusting their focus to 2020 Vision on one Sunday in November.
They are being asked to mark November 16 as 2020 Vision Sunday by supporting and praying for the Church in Wales’ strategy for growth.
Major changes are well underway in the Church in Wales as it responds to the challenge of making the best use of its resources to serve Wales today. These include expanding traditional parish boundaries into create larger “Ministry Areas” and encouraging lay people to take up leadership roles. The strategy is called 2020 Vision as it looks ahead to the Church in Wales’ centenary in 2020.
Prayers, readings and a sermon themed around 2020 Vision are being sent out to all churches in time for the special Sunday and are also available online at http://www.churchinwales.org.uk/review/2020-vision-sunday/
The Bishop of Bangor, Andy John, says he hopes all churches will mark 2020 Vision Sunday, “We need your prayers and support to make the whole church grow and thrive. Setting aside a special Sunday to do that gives us all a focus and clear-sightedness for the road ahead. It also raises awareness of the crucial changes that are taking place which we are inviting everyone to be a part of.”
The Time Is Now Conference
Congregations will also be asked to pray for a two-day 2020 Vision conference being held at the end of that week on November 21-22. Called The Time Is Now, the conference will bring together about 200 people from churches across Wales to share their stories of how their churches are responding to changes.
They will be joined by the Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, and the six other Welsh bishops. There will also be conference theologian who will reflect on the issues under discussion. Dr Christina Baxter CBE, is a former Chair of the Church of England’s General Synod’s House of Laity, former Principal of St John’s Theological College, Nottingham, and a lay canon of Southwell.
The conference facilitator will be Lord Dafydd Elis Thomas AM.
During the event there will be discussions and presentations from each diocese on themes linked to the change agenda. These themes will include team building, reaching younger people, creating ministry areas and recruiting lay leaders.
The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, said, “This conference is about winning people’s hearts and minds in order to continue a cultural change that has already begun in the way people think about church.
“We want to do ‘church’ differently so that the great resources we have can be used much more effectively than at present. Hopefully, this conference will be a chance for people from all over the Province to share what they are doing, learn from one other, be enthused and inspired and take away a clear vision for the future of the Church in Wales.”
The Time Is Now conference takes place at Venue Cymru, Llandudno, on 21-22 November.
To find out more about 2020 Vision, go to http://www.churchinwales.org.uk/review/
Dydd Sul Golwg 2020 – Tachwedd 16
Bydd eglwysi ledled Cymru yn ail-addasu eu ffocws i Golwg 2020 ar un dydd Sul ym mis Tachwedd.
Gofynnir iddynt nodi 16 Tachwedd fel Dydd Sul Golwg 2020 drwy gefnogi a gweddïo am strategaeth twf yr Eglwys yng Nghymru.
Mae newidiadau sylweddol ar y gweill yn yr Eglwys yng Nghymru wrth iddi ymateb i her gwneud y defnydd gorau o'i hadnoddau i wasanaethu Cymru heddiw. Mae hyn yn cynnwys ehangu ffiniau traddodiadol plwyfi i greu 'Ardaloedd Gweinidogaeth' ehangach ac annog lleygwyr i fod yn arweinwyr. Gelwir y strategaeth yn Golwg 2020 gan ei bod yn edrych ymlaen at ganmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru yn 2020.
Anfonir gweddïau, darlleniadau a phregeth gyda thema Golwg 2020 at bob eglwys mewn pryd ar gyfer y dydd Sul arbennig ac maent hefyd ar gael ar-lein yn http://www.churchinwales.org.uk/review/2020-vision-sunday/
Dywedodd Andy John, Esgob Bangor, ei fod yn gobeithio y bydd pob eglwys yn nodi Dydd Sul Golwg 2020, "Rydym angen eich gweddïau a'ch cefnogaeth i wneud i'r holl eglwys dyfu a ffynnu. Mae neilltuo dydd Sul arbennig i wneud hynny'n rhoi ffocws i ni a rhoi golwg glir ar y ffordd ymlaen. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y newidiadau hanfodol sy'n digwydd a gwahoddwn bawb i fod yn rhan ohonynt."
Cynhadledd Dyma'r Amser
Gofynnir i gynulleidfaoedd weddïo am gynhadledd ddeuddydd Golwg 2020 a gynhelir ar ddiwedd yr wythnos honno ar 21-22 Tachwedd. Dan deitl Dyma'r Amser, bydd y gynhadledd yn dod â tua 200 o bobl o eglwysi ar draws Cymru ynghyd i rannu eu straeon am sut mae eu heglwysi yn ymateb i newidiadau.
Ymunir â hwy gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, a'r chwe esgob arall yng Nghymru. Bydd hefyd ddiwinydd cynhadledd fydd yn myfyrio ar y materion a gaiff eu trafod. Mae Dr Christina Baxter CBE yn gyn Gadeirydd Tŷ Lleygwyr Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr, yn gyn Bennaeth Coleg Diwinyddol Sant Ioan, Nottingham ac yn ganon lleyg yn Southwell.
Hwylusydd y gynhadledd fydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.
Bydd trafodaethau a chyflwyniadau o bob esgobaeth ar themâu’n gysylltiedig gyda'r agenda newid yn ystod y digwyddiad. Bydd y themâu hyn yn cynnwys adeiladu tîm, cyrraedd pobl iau, creu ardaloedd gweinidogaeth a recriwtio arweinwyr lleyg.
Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, "Mae'r gynhadledd hon yn ymwneud ag ennill calonnau a meddyliau pobl er mwyn parhau newid diwylliannol sydd eisoes wedi dechrau yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am yr eglwys.
"Rydym eisiau gwneud 'eglwys' yn wahanol fel y gellir defnyddio'r adnoddau gwych sydd gennym yn llawer mwy ag effeithlon nag ar hyn o bryd. Gobeithiwn y bydd y gynhadledd yma'n gyfle i bobl o bob rhan o'r Dalaith i rannu'r hyn y maent yn ei wneud, dysgu gan ei gilydd, ennyn eu brwdfrydedd a'u hysbrydoliaeth a chael gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr Eglwys yng Nghymru."
Cynhelir cynhadledd Dyma'r Amser yn Venue Cymru, Llandudno, ar 21-22 Tachwedd.