This website is best viewed with CSS and JavaScript enabled.

2020 Vision – The Time Is Now conference

Posted on: February 28, 2014 3:30 PM
Related Categories: Wales

People from all over Wales will gather for a landmark conference later this year to share ideas on the future of the Church in Wales.

Delegates from the six dioceses of the Church will meet for a two-day event to explore how major change is happening across the country as part of the Church’s strategy for growth.

Called 2020 Vision, the strategy follows a wide-scale review of the Church in Wales which was commissioned to see how the Church could best serve Wales by the time it celebrates its centenary in 2020. At its core are the creation of “Ministry Areas” led by teams of clergy and lay people, replacing the traditional pattern of smaller parishes led by one cleric.

About 200 people will attend the conference, entitled The Time Is Now, at Venue Cymru, Llandudno, on 21-22 November. They include 30 representatives from each diocese and all the Church’s six bishops.

Each diocese will participate in a series of discussion and presentations on themes linked to the change agenda. The themes will include team building, reaching younger people, creating ministry areas and recruiting lay leaders.

A key-note address will be given by the internationally acclaimed theologian, Dr Christina Baxter CBE, former Chair of the Church of England’s General Synod’s House of Laity, former Principal of St John’s Theological College, Nottingham, and a lay canon of Southwell.

The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, said, “This conference is about winning people’s hearts and minds in order to continue a cultural change that has already begun in the way people think about church.

“We want to do ‘church’ differently so that the great resources we have can be used much more effectively than at present.  Hopefully, this conference will be a chance for people from all over the Province to share what they are doing, learn from one other, be enthused and inspired and take away a clear vision for the future of the Church in Wales.”

Meanwhile, a special Sunday is being set aside ahead of the conference for congregations to focus on and pray for the Church’s 2020 Vision.

2020 Vision Sunday will be held on November 16 with themed prayers, readings and sermons available for churches to download. 

Golwg 2020 - Cynhadledd Dyma'r Amser

Bydd pobl o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd ar gyfer cynhadledd allweddol yn ddiweddarach eleni i rannu syniadau ar ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd cynrychiolwyr o chwe esgobaeth yr Eglwys yn cwrdd ar gyfer digwyddiad deuddydd i ymchwilio sut mae newid mawr yn digwydd ar draws y wlad fel rhan o strategaeth yr Eglwys ar gyfer twf.

Dan deitl Golwg 2020, mae'r strategaeth yn dilyn adolygiad eang o'r Eglwys yng Nghymru a gomisiynwyd i weld y ffordd orau y gallai'r Eglwys wasanaethu Cymru erbyn y bydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020. Craidd y strategaeth yw creu "Ardaloedd Offeiriadaeth" dan arweiniad timau o glerigwyr a lleygwyr, yn lle'r patrwm traddodiadol o blwyfi llai dan arweiniad un clerigwr.

Bydd tua 200 o bobl yn mynychu cynhadledd Dyma'r Amser yn Venue Cymru, Llandudno ar 21-22 Tachwedd. Maent yn cynnwys 30 cynrychiolydd o bob esgobaeth a phob un o chwe esgob yr Eglwys.

Bydd pob esgobaeth yn cymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau a chyflwyniadau ar themâu'n gysylltiedig gydag agenda newid. Bydd y themâu yn cynnwys adeiladu tîm, cyrraedd pobl iau, creu ardaloedd offeiriadaeth a recriwtio arweinwyr lleyg.

Rhoddir anerchiad cyweirnod gan Dr Christine Baxter CBE, diwinydd o fri rhyngwladol sy'n gyn Gadeirydd Tŷ Lleygwyr Synod Cyffredinol yr Eglwys yn Lloegr, cyn Bennaeth Coleg Diwinyddol Sant Ioan, Nottingham a chanon lleyg yn Southwell.

Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, "Mae'r gynhadledd hon ynglŷn ag ennill calonnau a meddyliau pobl er mwyn parhau â newid diwylliannol sydd eisoes wedi dechrau yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am yr eglwys.

"Rydym eisiau gwneud 'eglwys' yn wahanol fel y caiff yr adnoddau mawr sydd gennym eu defnyddio'n llawer mwy effeithlon nag ar hyn o bryd. Gobeithiwn y bydd y gynhadledd yn gyfle i bobl o bob rhan o'r Dalaith i rannu'r hyn y maent yn ei wneud, yn ei ddysgu gan ei gilydd, ennyn brwdfrydedd a chael eu hysbrydoli a mynd adref gyda gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr Eglwys yng Nghymru."

Yn y cyfamser, caiff dydd Sul arbennig ei neilltuo cyn y gynhadledd i gynulleidfaoedd ganolbwyntio ar a gweddïo am Weledigaeth 2020 yr Eglwys.

For more information, please contact:

Anna Morrell
Archbishop's Media Officer / Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
Tel: 02920 348208; mobile: 07 91 91 587 94